Ynglŷn â

Mae’r etholiad hwn yn dod ar adeg o ansicrwydd heb ei debyg, a chaledi cynyddol ar gyfer pobl Cymru. Mae’r trafodaethau Brexit di-drefn yn cyrraedd cyfnod tyngedfennol, gyda nifer aruthrol o swyddi yn y fantol, tra bo wyth mlynedd o lymder Toriaidd yn creu argyfwng sy’n gwaethygu bob dydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a safonau byw.

Bydd pwy bynnag sy’n cael ei (h)ethol yn ysgwyddo cyfrifoldeb anferth wrth sicrhau bod Llafur Cymru yn ymateb i’r her.

Rhaid i bwy bynnag sy’n cael ei (h)ethol fwynhau’r gefnogaeth ddiamheuol gan y blaid a geir drwy’r system ‘un aelod un bleidlais’.

Wrth ystyried a ddylwn i sefyll ai peidio, fe wnes i ofyn rhai cwestiynau pwysig i fy hun. Pam wnes i ddod yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth? Beth sy’n dal i fy nghorddi ar ôl yr holl flynyddoedd? Pa fath o newid sydd ei angen ar Gymru? Sut y gallai fy mhrofiad i helpu i’w wireddu?

Roedd gorllewin Cymru yn ardal o drafod brwd ar wleidyddiaeth pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Yn fy arddegau yng Nghaerfyrddin, roedd rhaid i mi ddewis rhwng sosialaeth a chenedlaetholdeb. Yr hyn a’m tynnodd at Lafur oedd fy nheimlad cryf fod gan bobl gyffredin yr un anghenion, ble bynnag y maen nhw’n byw ac o ble bynnag y maen nhw’n dod. Yng Nghymru, y pryd hwnnw a heddiw o hyd, mae gwerthoedd radical, sosialaidd yn nodweddiadol Gymreig a Llafur hefyd.

Fel aelod selog ifanc o’r blaid Lafur, doedd gen i ddim uchelgais am swydd aruchel, nac am yrfa ym myd gwleidyddiaeth. Fe wnes i weithio am 17 mlynedd gyda phlant a phobl ifanc, yn gyntaf gyda’r gwasanaeth prawf, ac wedyn gyda Barnardo’s a chyfiawnder ieuenctid. Roedd hyn yn ystod cyfnod Thatcher a’i pharodrwydd i ddistrywio swyddi a chymunedau er mwyn sicrhau buddugoliaeth trachwant yr unigolyn dros angen y cyhoedd. Collodd pobl ifanc bob gobaith. Gallen nhw weld nad oedd gan y pwysigion unrhyw ddiddordeb ynddyn nhw.

In 1985, ynghanol y frwydr i amddiffyn llywodraeth leol rhag ymosodiadau Thatcher, cefais fy ethol i Gyngor Sir De Morgannwg, ac fe fûm i yno am wyth mlynedd. Roedd yn amser caled wrth i Lafur frwydro yn erbyn toriadau cyllid a phwysau i breifateiddio. Roedd rhaid i ni hyd yn oed amddiffyn yr egwyddor bod llywodraeth yn medru gweithredu er lles y bobl, bod cynghorau lleol yn fodd i weithredu ar y cyd i helpu’r rheini sydd fel arall heb lais i fynegu barn.

Pan gafodd llywodraeth Lafur ei hethol newidiodd y sefyllfa er gwell, ond heb i agenda Thatcher ddiflannu’n llwyr. Yma yng Nghymru creoedd Llafur y Cynulliad Cenedlaethol, ond yn San Steffan roedd Llafur o hyd y rhy agos at y sector breifat, ac yn rhoi llawer gormod o ryddid i’r banciau.

Yn 2000, fe ddechreuais i weithio fel ymgynghorydd gwleidyddol i Rhodri Morgan. Fel Prif Weinidog, fe wnaeth wahaniaethu rhwng Llafur Cymru a Llafur Newydd, gan ddweud bod dylanwad Aneurin Bevan arno yn gryfach na dylanwad Milton Friedman, yr economegydd oedd wedi ysbrydoli Thatcher. Wnaeth Llafur Cymru ddim derbyn rhoi gwaith allan ar gytundeb, preifateiddio a mentrau cyllid preifat. Fe gadwon ni, yng ngeiriau Rhodri, at “ddarparu ar gyfer pawb yn hytrach na phrawf moddion, a hybu cydraddoldeb yn hytrach na dewis i’r defnyddiwr”. Ond ar waethaf y ‘dŵr clir coch’ rhwng Caerdydd a San Steffan, doedd dim yn gallu ein harbed pan wnaeth y banciau ddymchwel, gan achosi’r dirwasgiad gwaethaf ers cenhedlaeth.

Pan ddaeth y Toriaid i rym yn 2010, fe wnaethon nhw ymateb fel arfer – drwy weud i bobl gyffredin dalu am argyfwg oedd wedi ei greu gan fancwyr cyfoethog. Erbyn i fi gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011, roedd Cymru yn wynebu holl bwysau llymder. Roeddem yn gallu lliniaru rywfaint ar yr effeithiau gwaethaf, ond doedd gennym ni ddim y grym na’r adnoddau i gael gwared ar lymder yn llwyr o Gymru.

Dyna pam, pan safodd Jeremy Corbyn ar gyfer arweinyddiaeth plaid Lafur y DU yn 2015, y gwnes i groesawu ei neges glir gwrth-lymder. Fi oedd yr unig Weinidog yng Nghabinet Llywodraeth Cymru i’w gefnogi. Mae ar Lafur Cymru angen arweinydd ar y blaid yn San Steffan fydd yn gweithio gyda ni i ymladd dros pobl Cymru. Yn fy marn i, roedd ethol Jeremy yn arwydd bod Llafur yn dychwelyd at draddodiad Aneurin Bevan o sefyll, heb unrhyw amheuaeth, dros y rheini sydd yn cael eu dal yn ôl gan y diffyg cydraddoldeb sy’n creithio ein cymdeithas. Wrth gnocio ar ddrysau yn ystod etholiad 2017, roeddwn yn falch o fedru siarad am faniffesto Llafur.

Wrth deithio o gwmpas Cymru nawr, dw i’n gweld pobl sy’n gweithio’n galed i wella bywyd iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Dw i’n gweld hen ddigon o allu, uchelgais ac ymdrech. Dw i’n gweld haelioni ac undod hefyd, wrth i bobl gydweithio i weud Cymru’n well le i fyw.

Mae Llafur wedi trin datganoli yn yr ysbryd hwn. Rydym wedi defnyddio ein grymoedd i newid Cymru mewn ffordd sylfaenol – o ran hawliau undebau llafur, y Cyflog Byw, ffioedd addysg, costau presgripsiwn a brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Ac rydym wedi arloesi newidiadau er gwell sydd wedi eu dilyn mewn rhannau eraill o’r DU – fel yn achos caniatâd tybiedig i roi organau ac agor ysgolion ar gyfer prydau bwyd a gweithgareddau i blant y ystod y gwyliau.

Gallwn fod yn falch o’r hyn rydym weid llwyddo i’w wneud mewn amgylchiadau anodd. Ond mae yna lawer mwy o hyd i’w wneud. Yn y 1970au, dan lywodraeth Lafur oedd yn cynnwys Barbara Castle, Michael Foot a Tony Benn, roedd y DU yn un o’r gwledydd mwyaf cyfartal yn Ewrop. Heddiw rydym ymysg y mwyaf anghyfartal, ac mae anghyfartaledd yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu dal yn ôl, ac mae Cymru yn cael ei dal yn ôl, gan gyfundrefn sydd wedi ei threfnu er budd y cyfoethog. Mae anghenion pobl yn syml – rhywle i fyw, rhywbeth i’w wneud, rhywun i ofalu amdano neu amdani – ond mae llawer gormod yn wynebu brwydr i gadw fynd o gwbl, ac eraill â mwy nag y bydd byth ei angen arnyn nhw.
Os caf i fy ethol yn arweinydd Llafur Cymru, fe wna’i wthio ffiniau grymoedd y Cynulliad Cenedlaethol mor bell ag y medra’i er mwyn darparu newid er gwell. Ar yr un pryd byddaf yn bont i Lafur yn San Steffan. Dangosodd maniffesto 2017 nad oes angen unrhyw ddŵr rhygom ni nawr. Roedd yn doriad pendant ag unrhyw gyfaddawd ag economeg Friedman o gyfnod Thatcher. Y newid dw i am ei weld – fel drwy gydol fy mywyd – yw creu cymdeithas sy’n cael ei threfnu er budd pawb nid er budd yr ychydig yn unig.

Bydd manylion fy mholisiau a’m blaenoriaethau yn cael eu datgan nes ymlaen yn yr ymgyrch. Bydd y rhain yn cynnwys cynlluniau ar gyfer gwireddu ymrwymiadau maniffesto 2016 Llafur Cymru, cynigion y gellir eu gweithredu o fewn y fframwaith gyfredol o rymoedd datganoledig, ac amlinell o’r dyfodol y byddem am ei weld, drwy weithio gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Fy mlaenoriaeth bennaf yw cyfarfod ag aelodau, undebau llafur a grwpiau ymgyrchu er mwyn darganfod pa bynciau sydd fwyaf pwysig yn eu tyb nhw. Dw i’n sicr y dylem ddilyn egwyddorion sosialaidd radical. Dw i ddim yn credu y dylai Llafur byth eto gynig dim byd mwy na gweinyddu yn fwy effeithiol y dewisiadau cul a roddir i ni gan y ‘farchnad rydd’ honedig. Ond dwi am i hyn fod yn ymgyrch ar y cyd, gyda’r holl fudiad yn ei gefnogi.

Gyda’n gilydd, gallwn lunio’n tynged ein hunain. Drwy ddefnyddio grym y llwodraeth – yng Nghymru ac yn San Steffan – gall pethau newid ac fe wnân nhw. Dyma beth sy’n fy ysgogi i a’r Blaid rydym i gyd yn perthyn iddi.